Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

Mae Perchenogion Gwersyll Ty’n Llan yn parchu dy breifatrwydd ac wedi ymrwymo i ddiogelu dy wybodaeth bersonol. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn dweud wrthyt sut rydym yn gofalu am dy ddata personol.

Gwybodaeth Bersonol

Dyw Gwersyll Ty’n Llan ddim ond yn casglu gwybodaeth am ei gwsmeriaid at ddiben gwneud a chofnodi archeb.

Rhoddir data i ni drwy lenwi ffurflenni, ar lafar, neu drwy ohebu drwy’r post, y ffôn a’r e-bost. Yr unig wybodaeth a gesglir gan gwsmeriaid yw manylion i gwblhau archeb gan gynnwys enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt, dyddiadau’r arhosiad a’r dyddiad y gwnaed yr archeb. Mae hyn yn berthnasol i archebion lluosog a wneir gan un person ac archebion a wneir ar ran rhywun arall. Os darperir gwybodaeth ar gyfer trydydd parti, sicrha eu bod wedi rhoi caniatâd i ddarparu’r wybodaeth hon i ni.

Rydym yn cadw dy wybodaeth yn gyfrinachol. Ni fydd dy ddata yn cael ei rannu heb dy ganiatâd.

Deunydd

Nid ydym yn anfon unrhyw ddeunydd marchnata at gwsmeriaid oni bai bod cwsmeriaid wedi gofyn am hynny. O bryd i’w gilydd efallai y byddwn yn postio gwybodaeth gyffredinol ar ein tudalen Facebook ar gyfryngau cymdeithasol. Nid ydym yn postio negeseuon uniongyrchol oni bai bod angen i ni ateb neges a anfonwyd atom.

Gwefan

Yr unig wybodaeth bersonol sy’n cael ei storio ar ein gwefan yw’r adolygiadau sydd wedi’u hysgrifennu gan gwsmeriaid. Mae cwsmeriaid wedi rhoi caniatâd i adolygiadau a ffotograffau gael eu cyhoeddi.

Rhannu Data

Mae diogelu dy ddata yn bwysig iawn i ni. Nid ydym yn rhannu dy ddata archebu ag unrhyw unigolion, cwmnïau na sefydliadau eraill. Cedwir archebion mewn ffeil ar ein cronfa ddata am un tymor yn unig. Mae dy ddata archebu yn cael ei brosesu a’i storio ar ein gweinydd diogel. Yr unig wybodaeth bersonol sy’n cael ei storio gennym ni yw manylion cyswllt ein cwsmeriaid tymhorol presennol a phobl sydd wedi cysylltu â ni drwy e-bost ynglŷn â llain yn y dyfodol.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut rydym yn trin, storio neu ddefnyddio eich data, cysylltwch â ni yn Gwersyll Ty’n Llan, Cwm Pennant, Garndolbenmaen, Gwynedd, LL51 9AX neu drwy e-bost yn info@tynllan-camping.co.uk

Newidiadau

Bydd unrhyw newidiadau i’n polisi preifatrwydd yn cael eu postio yma.

Archebwch eich gwyliau Afon Dwyfor heddiw...

Book

Booking System Temporarily Unavailable

Our online booking system is currently unavailable while the issue is being resolved.
To make a booking or discuss your requirements, please contact us by phone or email and we’ll be happy to help.
 +44 (0) 7747 773 545
 Thank you for your patience